Croeso i Fodnant
Mae Canolfan Bwyd Cymru Bodnant wedi ei leoli yn Fferm Ffwrnais yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy. Mae’r adeiladau gwreiddiol, sydd yn dyddio o’r 18fed ganrif, wedi cael eu hadfer yn ofalus i greu’r safle perffaith ar gyfer ein siop fferm, ystafell de, bwyty ac ysgol goginio.
Yma ym Mwyd Cymru Bodnant rydym yn frwdfrydig am fwyd traddodiadol Cymreig. Rydym yn manteisio ar bob cyfle i ddod a cynnyrch o’r ansawdd orau o’n ystâd, a nifer o gynhyrchwyr lleol, i chi.
Mae ein bwyty prydferth, Y Llofft Wair, yn cynnig bwydlen tymhorol i arddangos y cynnyrch anhygoel sydd ar gael yn lleol. Mae ein cogyddion yn dewis pob un o’i cynhwysion yn ofalus i greu blas o Gymru y byddwch yn dod yn ôl i fwynhau dro ar ôl tro!
Fe fedrwch hefyd flasu ein cynnyrch ffres yn yr Ystafell De wrth fwynhau cinio ysgafn, neu baned o goffi hamddenol gyda darn o gacen cartref. Neu beth am flasu ein hufen iâ â gynhyrchir ar y safle yn ein Llaethdy.
Lawr yn y Becws mae ein Pobydd yn pobi’r bara a ddefnyddir ar draws y ganolfan, yn y Bwyty, Ystafell De a Siop Fferm. Mae ei amrywiaeth o fara arbenigol yn eang, creadigol, ac, yn fwy na dim, yn flasus iawn! 
Mae bob dim y medrwch ei flasu yma ym Modnant ar werth yn y Siop Fferm, felly fe gewch barhau i fwynhau bwyd gorau’r ardal gartref. Mae’r Siop Fferm ar agor bob dydd ac yn llawn ffrwythau hyfryd, llysiau tymhorol, pysgod ffres a chig bendigedig. Mae yna hefyd amrywiaeth o eitemau sylfaenol, nifroedd o felysion bychain, a dewis eang o ddiodydd lleol. Y broblem fwyaf fydd ceisio dewis be i brynu!
Mae ein tîm cyfeillgar ar gael i sicrhau eich bod yn cael yr ymweliad gorau bosib i’r ganolfan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y bwyd neu nwyddau yr ydym yn eu gwerthu gofynnwch i aelod o staff, rydym wrth ein boddau yn brolio am ein cynnyrch eithriadol!
Os yr ydych chi wedi eich ysbrydoli gan bob dim yr ydych wedi ei weld a’i flasu, ac yn awyddus i ddysgu mwy am baratoi bwyd gwych Cymru, beth am fanteisio ar y cyfle i fynychu cwrs coginio yn ein Ysgol Goginio fendigedig. Beth am wneud gwyliau o’ch amser yma drwy aros yn ein Ffermdy moethus.
Ar y cwrt yng nghalon y ganolfan fe ddarganfyddwch Ganolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru, sydd yn gwerthu mêl lleol a nifer o nwyddau harddwch wedi eu creu gyda mêl. Mae’r tîm yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau am ein ffrindiau bychain a’u pwysigrwydd i’r amgylchedd, a mae’r siop ei hun yn llawn o wybodaeth amdanynt.
Mae cymaint yma yng Nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant i’ch diddori, o’r siop fferm i’r ystafell de, o’r bwyty i’r ysgol goginio a’r ystafell Pochin sydd yn berffaith ar gyfer cynadleddau neu ddathlu priodas.
Rydym yn edrych ymlaen i’ch croesawu i Ganolfan Fwyd Cymru Bodnant.
Latest from the Bodnant Blog
Below are the latest posts from our Bodnant Blog.-
27th October 2012
Asados and the Conwy Valley
There is a strong Welsh connection with Patagonia going back many generations. How fantastic that these links are still maintained despite time and distance. Continue Reading
-
27th October 2012
Miles,Butchery Manager
What a whirl wind of a journey, I don’t think my feet have touched the ground but what a fantastic time in my life, from meeting HRH the Prince of Wales and the Duchess of Cornwall to numerous newspaper and radio interviews I have felt like a bit of a celebrity and it has most definitely been the height of my career so far. Continue Reading
-
27th October 2012
Tasting times
Since November 2011 small scale trials have been carried out at Coleg Menai Food Technology Centre to develop a Cheshire type of cheese for Bodnant Welsh Food. Small 40 litre test vats were produced to finalise the recipe and method for production, using a DVI culture, animal rennet and locally produced Halen Mon salt.



































